CYFLWYNIAD

1.        Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli’r 22 awdurdod lleol ac mae awdurdodau’r tri gwasanaeth tân ac achub a’r tri pharc cenedlaethol yn aelodau cyswllt.

2.        Ei nod yw cynrychioli’r awdurdodau lleol trwy fframwaith polisïau sy’n berthnasol i’w prif flaenoriaethau.  Ar ben hynny, mae’n cynnig amrywiaeth helaeth o wasanaethau sy’n ychwanegu gwerth at faes llywodraeth leol a’r cymunedau mae’n eu cynnal.

3.        Mae WLGA yn sefydliad trawsbleidiol o dan arweiniad gwleidyddion.  Arweinyddion yr awdurdodau lleol sy’n pennu’r polisïau trwy Fwrdd Gweithredu a Chyngor WLGA.  Fe fydd WLGA yn penodi cynghorwyr uchelradd yn llefarwyr a dirprwy lefarwyr hefyd, fel y gallan nhw arwain materion ar ran maes llywodraeth leol.

4.        Mae WLGA yn cydweithio’n agos ag ymgynghorwyr a chymdeithasau proffesiynol byd llywodraeth leol ac fe fydd yn hel eu cynghorion, yn aml.  Corff cynrychioli llywodraeth leol yw ei phrif swyddogaeth, fodd bynnag, gan weithredu’n llais gwleidyddol cyfunol ar ran yr awdurdodau.

5.        Mae WLGA yn croesawu’r cyfle i gyflwyno tystiolaeth i Ymchwiliad Pwyllgor y Cynulliad dros Faterion Diwylliannol, y Gymraeg a Chyfathrebu i’r Amgylchedd Hanesyddol.

6.        Ar y cyfan, mae’r awdurdodau wedi croesawu Deddf Amgylchedd Hanesyddol Cymru a’r dyletswyddau newydd yn ei sgîl.  Ynghyd â’r ddeddf, mae Cadw wedi cyhoeddi set o ganllawiau sydd wedi’i chroesawu, hefyd.  Bu angen i’r awdurdodau lleol a’r parciau cenedlaethol gyflawni tipyn o waith wrth ymateb i’r ymgynghori am y canllawiau ac fe dreuliodd swyddogion lawer o amser ar ddeall y canllawiau ac ystyried y goblygiadau i wasanaethau.  Mae Cadw yn bwriadu cyhoeddi rhagor o ganllawiau maes o law.

7.        Mae gwir angen adnoddau ar yr awdurdodau lleol i gyflawni’r dyletswyddau newydd.  Mae nifer y swyddogion sy’n ymwneud â’r amgylchedd hanesyddol wedi gostwng dros y blynyddoedd diwethaf hyn ac mae rhaid i’r awdurdodau lleol a’r parciau cenedlaethol flaenoriaethu gwaith ymatebol (materion/achosion cyfreithiol) ar draul y gorchwylion rhagweithredol (adfywio/ymwelwyr).

8.        Mae dyletswyddau’r awdurdodau lleol ac awdurdodau’r parciau cenedlaethol ynglŷn ag adeiladau rhestredig yn tueddu i amrywio yn ôl trefniadau Cadw a all ddirprwyo hawl i swyddogion bennu a ddylai adeilad fod yn un rhestredig (Gradd II) neu beidio.  Dyma’r awdurdodau lle mae’r hawl honno wedi’i dirprwyo hyd yma: Sir Fynwy, Sir Gâr, Bro Morgannwg, Arfordir Sir Benfro, Wrecsam, Bannau Brycheiniog, Sir Benfro.  Bydd nifer yr adeiladau rhestredig yn ardal awdurdod lleol neu barc cenedlaethol yn effeithio ar yr adnoddau angenrheidiol, hefyd.

9.        Mae Cadw, WLGA a’r awdurdodau lleol yn effro i faterion cadernid y sector, ac maen nhw’n ystyried ffyrdd amgen o gyflawni’r gwaith.  O ganlyniad, mae dau orchwyl eithaf diddorol yn mynd rhagddynt.  Cydnabu saith awdurdod cynllunio lleol y gogledd (gan gynnwys Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri) fod gwasanaethau arbenigol megis y rhai ar gyfer y dreftadaeth adeiledig o dan bwysau.  Fe sefydlon nhw brosiect i adolygu ac adlunio gwasanaethau o’r fath gan gynnwys ystyried cyflwyno trefniadau rhanbarthol.  Felly, fe ddaeth Cadw, swyddogion cadwraeth yr awdurdodau a dwy ymddiriedolaeth archeolegol ynghyd i bennu ffyrdd o wella gwasanaethau.  Mae nifer o gynigion wedi deillio o hynny megis symleiddio polisïau lleol, cyfuno adnoddau er effeithlonrwydd a chadernid, adolygu amserlen cynghorion Cadw a hybu gwasanaethau.  Ar ben hynny, mae cynigion ynglŷn â chaniatâd i restru adeilad megis gwella ansawdd y ceisiadau, dirprwyo’r hawl i restru adeiladau i ragor o awdurdodau ac ystyried rôl awdurdodau lleol a Cadw yn y broses honno.

10.     Yn ogystal â’r gwaith yn y gogledd, mae Cadw yn arwain cylch gorchwyl a gorffen ac iddo aelodau sy’n cynrychioli WLGA a’r awdurdodau lleol i ystyried materion tebyg ar ran Cymru gyfan.  Bydd y cylch yn cyflwyno adroddiad i Ysgrifennydd y Cabinet cyn bo hir (gan gynnwys argymhellion ynglŷn â chaniatâd i restru adeiladau, yn ôl pob tebyg).

11.     Mae’r awdurdodau’n parhau i gydweithio’n anffurfiol, hefyd.  Byddan nhw’n lledaenu gwybodaeth, medrau ac astudiaethau trwy gyfarfodydd y swyddogion cadwraeth yn y de a’r gogledd yn ogystal ag anfon ceisiadau am gynghorion, enghreifftiau a chymorth at ei gilydd trwy ebost yn ôl yr angen.

12.     Mae’r awdurdodau lleol wedi bod yn rhagweithredol trwy lunio strategaethau ar gyfer nodi adeiladau mewn perygl.  O ganlyniad, mae nifer o adeiladau pwysig wedi’u cadw.  Gan fod llai o adnoddau i’r awdurdodau lleol a’r parciau cenedlaethol, fodd bynnag, fe fydd llai o fentrau rhagweithredol, yn ôl pob tebyg.

13.     Trwy eu rôl ehangach, mae’r awdurdodau lleol mewn sefyllfa dda i hybu twristiaeth.  Mae pwysigrwydd treftadaeth – yn ystyr ledan y gair – i ddiwydiant yr ymwelwyr heb ei werthfawrogi’n llawn bob amser.  Fe gyhoeddodd cylch adroddiad yn ddiweddar (http://cadw.gov.wales/about/partnershipsandprojects/aboutpartners/histenvgroup/?lang=en) am fuddion treftadaeth i Gymru a gallai fod cyfleoedd i ychwanegu at hynny o hyn ymlaen i gynnwys cyfraniadau sectorau eraill megis llywodraeth leol.  Trwy eu rôl ym maes twristiaeth, bydd yr awdurdodau lleol yn cydweithio â Cadw er mwyn annog pobl i ymweld â safleoedd treftadaeth a gwneud y gorau o’u gwariant yn y maes hwn.

14.     Cefnogodd WLGA adroddiad y Farwnes Andrews am y modd y gall cyrff diwylliannol a threftadaeth helpu i leddfu tlodi.  Cydweithion ni â Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i roi argymhellion yr adroddiad ar waith gan gynnwys sefydlu ardaloedd arbrofol.  Mae WLGA wedi helpu’r Athro Dai Smith i gyflawni gwaith ynglŷn â rôl y celfyddydau ym maes addysg, hefyd.  Yn ddiweddar, rydyn ni wedi helpu Llywodraeth Cymru i lunio ‘Cwrícwlwm Cymru, Cwrícwlwm am Oes’ yn sgîl adolygiad Donaldson.  Mae WLGA wedi croesawu’r ffaith y bydd ‘celfyddydau mynegi’ yn rhan o’r cwrícwlwm newydd hwnnw.  Daw’r datblygiadau hyn yn sgîl gwaith y Farwnes Andrews ac mae’n bwysig inni fynd ymhellach ar drywydd cydgyfeirio a chydlynu cyflawn.  Gan fod arian yn brin, mae’n bwysig ei ddefnyddio mor effeithlon ag y bo modd.

15.     Mae sawl awdurdod lleol wedi derbyn arian y Lotri Wladol i wella safleoedd treftadaeth ein trefi trwy Fenter Treftadaeth y Trefi.  Perchnogion preifat piau llawer o adeiladau canol pob tref ac mae’r awdurdodau lleol wedi cydweithio â nhw a chynnig anogaeth ariannol i’w galluogi i fuddsoddi yn eu hadeiladau.  Mae’r awdurdodau’n cydweithio â pherchnogion preifat mewn nifer o ffyrdd megis trwy roi caniatâd, cynnig cynghorion a chyfarwyddyd, nodi ffynonellau ariannu a hyrwyddo’r safle lle bo’n briodol.

16.     Llwyddodd WLGA i gynnal perthynas dda â swyddogion Cadw yn ystod y cyfnod cyn cyflwyno Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol ac rydyn ni’n parhau i siarad yn aml, er bod llai o drafodaethau bellach nag a fu drwy amryw gamau’r deddfu.  Mae staff pob awdurdod lleol yn cydweithio’n agos â swyddogion perthnasol Cadw.

17.     Fel sydd wedi’i nodi uchod, bydd angen cymorth ariannol ar awdurdodau lleol pan fo rhaid ad-drefnu rhyw wasanaeth, ac mae WLGA wedi awgrymu y dylai Cadw roi arian ar gael i’r diben hwnnw.  Mae WLGA wedi awgrymu y dylai Cadw ariannu hyfforddiant yn sgîl y newidiadau deddfwriaethol a’r canllawiau cysylltiedig, hefyd.  Prinder arian yw un o’r rhesymau a roed i esbonio pam nad yw hynny’n digwydd ac fe hoffai WLGA weld cyllideb benodol y byddai Cadw yn ei defnyddio i helpu’r awdurdodau lleol yn eu gwaith ynglŷn â’r amgylchedd hanesyddol.  Mae prinder arian yn amharu ar effaith Cadw a, heb arian ychwanegol, bydd hynny’n parhau.